Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 29 Ebrill 2019
Amser:
13.31 -
15.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5462
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Huw Irranca-Davies AC Delyth Jewell AC Mark Reckless AC Suzy Davies AC (yn lle David Melding AC) Mike Hedges AC (yn lle Joyce Watson AC) |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru Simon Brindle, Llywodraeth Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Elisabeth Jones (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Dirprwyodd Mike Hedges ar ei rhan.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding. Dirprwyodd Suzy Davies ar ei ran.
1.4 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan mai ef yw cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Cytunodd Mr Irranca-Davies i beidio â gofyn cwestiynau a oedd yn ymwneud â'r rôl hon.
2.1 Ymatebodd y Prif Weinidog i gwestiynau gan yr Aelodau.
3.1.1 Cytunodd yr Aelodau i dderbyn cynnig y Gweinidog Brexit o friff technegol ar Fframweithiau Cyffredin gan swyddogion.
3.1.2 Nodwyd y papur.
3.2.1 Nodwyd y papur.
3.3.1 Nodwyd y papur.
3.4.1 Nodwyd y papur.
3.5.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Gweinidog i geisio sicrwydd pellach ar gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach.
3.5.2 Nodwyd y papur.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Prif Weinidog i gadarnhau eu hymrwymiad i gydweithredu er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn gallu dod i'r Pwyllgor pan fydd angen.
7.1 Trafododd yr Aelodau y cytundebau a ganlyn:
· Cytundeb parhad masnach UK-CARIFORUM
· Cytundeb parhad masnach Gwlad yr Iâ-Norwy
· Cytundeb Partneriaeth Wirfoddol y DU-Indonesia ar Orfodaeth Cyfraith Coedwigoedd, Llywodraethu a'r Fasnach mewn Cynhyrchion Pren
· Cytundeb y DU-Belarws ynghylch Cludo Cerbydau Modur Rhyngwladol
7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad o'i ddatganiad ar gyfrifoldeb am bolisi coedwigaeth yn y DU.